top of page

Ein Cenhadaeth

Meithrin meddyliau yfory gyda'n gilydd

Ein Gweledigaeth

Ein nod yw meithrin disgyblion, mewn partneriaeth â'u teuluoedd a'u cymunedau, i fod yn ddinasyddion gofalgar a meddylgar sy'n anelu at fod y gorau y gallant fod ym mha bynnag faes a ddewisant yn y dyfodol.

dyma ni.png

Ein hanes

Agorodd Ysgol Gymraeg Casnewydd ei drysau ar 1af Medi 1993 o ganlyniad i fwy na 30 mlynedd o waith caled a chefnogaeth gan rieni a chymuned a allai weld a gwerthfawrogi budd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir olrhain twf addysg Gymraeg yng Nghasnewydd i’r uned Gymraeg gyntaf a sefydlwyd ym 1972.

 

Ym mis Medi 2002 cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig arall pan agorwyd yr Uned Feithrin ar y safle yn benodol ar gyfer plant 3 mlwydd oed. O ganlyniad, cynyddodd y nifer ar ein cofrestr i 350 a’n galluogi i ymateb i’r galw am addysg Gymraeg yn yr ardal. Adlewyrchwyd y twf hwn ar hyd a lled yr Hen Went

 

Mae llwyddiant yr ysgol yn dystiolaeth o waith caled ac ymrwymiad pawb sy’n ymwneud â hi. Mae’r ysgol hefyd wedi mwynhau llwyddiant academaidd a diwylliannol yn ogystal ag ym maes chwaraeon. Ymhlith uchafbwyntiau’r blynyddoedd diwethaf bu llwyddiant mewn Eisteddfodau yr Urdd ar lwyfan ac yn y cystadlaethau Celf a Chrefft. Cawsom nifer helaeth o wobrwyon am ein gerddi a'r defnydd a wneir o dir yr ysgol.  Daeth llwyddiant i dimau rygbi, athletau a gymnasteg yr ysgol mewn cystadleuthau i ysgolion cynraddd Casnewydd a'r Urdd.  Cawsom ganlyniadau da iawn yn y profion cenedlaethol ac adroddiad ESTYN rhagorol ym 2010.  Bydd yr ysgol yn parhau i adeiladu ar ei llwyddiant ac yn hyrwyddo buddiannau addysg Gymraeg.

 

Pwrpas yr ysgol o fewn ardal Casnewydd yw hyrwyddo iaith a thraddodiadau Cymru a chreu awyrgylch Gymreig er mwyn i’r plant ddatblygu yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Fel athrawon byddwn bob amser yn cyfathrebu â’r disgyblion yn Gymraeg, (oni bai ein bod yn cyflwyno gwers Saesneg) addysgir pob pwnc arall trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r dilyniant o’r Uned Feithrin i Ysgol Gymraeg Casnewydd yn elfen bwysig a hanfodol yn addysg y plant.

bottom of page