top of page
Bywyd Ysgol
Clybiau Ysgol
Mae’r ysgol yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol drwy gydol y flwyddyn. Ystyrir y gweithgareddau ychwanegol hyn yn hanfodol i ddatblygiad y plentyn cyfan. Mae’n bosibl y bydd yr hyn sy’n cael ei gynnig yn newid yn ôl adeg y flwyddyn ac fe’u cynhelir yn ystod amser cinio neu ar ôl ysgol.
Lles Dydd Llun a Dydd Gwener
Credwn fod pum cam y gallwn eu cymryd i wella ein lles. Rydym yn cyfeirio at bob cam fel ffynnon, mae pob un yn llawn syniadau a rhyfeddod sy'n ein helpu i deimlo'n hapus, yn iach ac yn fodlon. Bob bore Llun a phrynhawn Gwener, mae pob ystafell ddosbarth yn treulio amser yn gwneud gweithgareddau sy'n meithrin y ffynhonnau hyn. Am fwy o wybodaeth ewch i'n tudalen Lles.
bottom of page