top of page

Gair gan ein Pennaeth

Spencer-pennaeth.jpg

Hoffwn estyn croeso cynnes i’n gwefan. Trwy bori ein gwefan gobeithiwn gewch chi flas ar fywyd ysgol yn Ysgol Gymraeg Casnewydd.

 

Ein harwyddair yw "Meithrin Meddyliau Yfory Gyda’n Gilydd". Mae hwn yn adlewyrchu ein nod o baratoi ein disgyblion ar gyfer eu dyfodol i fod yn ddinasyddion gwybodus, iach ac hyderus sy’n barod ar gyfer y cam nesaf yn eu bywyd nhw. Disgyblion sydd yn foesgar a gofalgar wrth chwarae eu rôl yn y gymuned ehangach. Gyda’n gilydd rydym yn gallu cyflawni hyn. Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’n teuluoedd er lles pob un o’n disgyblion.

​

Yn Ysgol Gymraeg Casnewydd rydym yn cofleidio ein plant mewn profiadau cyfoethog yn y dosbarth a thu-hwnt. Cynigir profiadau sydd yn cyfoethogi addysg, profiad, mwynhad a thaith ysgol eich plentyn gyda ni er mwyn bod yn unigolion gwybodus ac yn barod ar gyfer y byd tu-allan.

 

Rydym yn gymuned gyfeillgar, croesawgar a chartrefol sydd yn cynnig cyfleoedd cyfartal i bawb.  Rydym yn trin pawb a thegwch, po bynnag eu rhywioldeb, crefydd, hil neu gefndir. Mae Hawliau Plant yn rhan bwysig o’n gweledigaeth a’r hyn rydym yn credu ynddo fel staff.  

Rydym yn ymfalchio yn ein hanes, diwylliant a’r iaith Gymraeg. Rhannwn ein balchder gyda’n disgyblion fel eu bod nhw hefyd yn teimlo’r un fath am eu hanes, yr iaith Gymraeg a diwylliant po bynnag eu llwybr.  

 

Trwy gydweithio rhwng teuluoedd, disgyblion, staff, llywodraethwyr a rhan-ddeiliaid eraill fydd pob un yn elwa ond yn bwysicach holl fydd pob plentyn yn elwa.  

 

Os hoffech sgwrs neu ymweld a’r ysgol mae croeso i chi gysylltu â ni er mwyn trefnu ymweliad.

 

Diolch yn fawr am ymweld a’n gwefan.

​

Cofion

Mr. Jones

Dyma beth mae ein plant yn ei ddweud

"Mae ein hysgol ni yn bwysig i mi oherwydd fy mod yn cael y cyfle i ddysgu a byw drwy siarad iaith arbennig a phrin." - James

Bywyd yn Ysgol Gymraeg Casnewydd

Cysylltwch
â ni

01633 290270

​

ysgol.gymraegcasnewydd@newportschools.wales

​

Heol Fferm Hartridge, Casnewydd,

NP18 2LN

Ymwelwch
â ni

Hartridge Farm Road,

Newport,

NP18 2LN

bottom of page