Arolygiad ysgol
O dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996, mae Estyn yn cynnal arolygiadau o ysgolion meithrin a chynradd cynhaliol. I gael gwybodaeth lawn am yr hyn y mae Estyn yn ei archwilio os gwelwch yn dda cliciwch yma.
​
Mae Estyn yn arolygu yn erbyn y pum maes hyn:
1
Dysgu
​
1.1 Safonau a chynnydd mewn dysgu a sgiliau
2
Lles ac agweddau at ddysgu
2.1 Lles
2.2 Agweddau at ddysgu
3
Profiadau addysgu a dysgu
​
3.1 Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb cwricwlwm yr ysgol
3.2 Addysgu ac asesu
4
Gofal, cefnogaeth ac arweiniad
​
4.1 Datblygiad personol
4.2 Diogelu
5
Arweinyddiaeth a rheolaeth
​
5.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
5.2 Prosesau hunanarfarnu a chynllunio gwella
5.3 Dysgu proffesiynol
Roedd yr arolygiad diwethaf o'n hysgol ym mis Mawrth 2017.
Perfformiad Cyfredol
Mae perfformiad cyfredol yr ysgol yn rhagorol oherwydd:
-
Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd rhagorol wrth ddatblygu eu holl sgiliau ar draws y cwricwlwm erbyn diwedd eu hamser yn yr ysgol
-
Mae gan bron pob disgybl sgiliau meddwl a dysgu annibynnol rhagorol
-
Mae disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cyflawni cystal â'u cyfoedion ac, mewn rhai meysydd, maent yn cyflawni'n well na'u cyfoedion
-
Mae bron pob disgybl yn trin ei gilydd, staff ac oedolion â pharch a chwrteisi gwirioneddol, yn cydweithio'n effeithiol ac yn ymddwyn yn rhagorol mewn gwersi ac o amgylch yr ysgol
-
Mae staff yn darparu ystod o brofiadau dysgu arloesol a chreadigol iawn sy'n cymell bron pob disgybl yn eithriadol o dda
-
Mae gan yr ysgol ethos Cymraeg cryf lle mae bron pob disgybl yn defnyddio'r Gymraeg yn hyderus ac yn gywir
-
Mae safon yr addysgu yn gyson dda ar draws yr ysgol gydag elfennau o ragoriaeth
-
Mae gweithdrefnau effeithiol ar gyfer asesu a chofnodi cynnydd disgyblion
-
Mae'r ysgol yn gymuned ofalgar a chefnogol sy'n creu ethos cynhwysol, cynnes a chyfeillgar
-
Mae amgylchedd yr ysgol yn ddeniadol, yn ysgogol ac o ansawdd uchel
Rhagolygon ar gyfer Gwella
Mae rhagolygon yr ysgol ar gyfer gwella yn rhagorol oherwydd:
-
Mae'r pennaeth yn darparu arweinyddiaeth arloesol, gadarn ac effeithiol iawn
-
Mae gan aelodau o'r uwch dîm rheoli rolau pendant sy'n gwneud cyfraniad eithriadol at welliannau
-
Mae gan arweinwyr a staff ddisgwyliadau uchel iawn o'u hunain, ei gilydd a'r disgyblion
-
Mae ysbryd tîm eithriadol o gryf yn yr ysgol
-
Mae systemau hunanarfarnu eithriadol sydd wedi'u hymgorffori'n gadarn dros gyfnod o amser
-
Mae'r cynllun datblygu ysgol yn canolbwyntio'n glir ar godi safonau
-
Mae gan yr ysgol ystod o bartneriaethau effeithiol iawn sy’n gwneud cyfraniad eithriadol tuag at godi safonau a chefnogi lles bron pob disgybl
-
Mae'r ysgol yn rhannu arfer rhagorol i godi a chynnal safonau llythrennedd a rhifedd ledled Cymru
-
Mae arweinwyr yn gwneud defnydd medrus iawn o staff ac adnoddau
-
Mae gan lywodraethwyr ddealltwriaeth bwrpasol o gryfderau a meysydd i'w gwella
Dadlwythwch yr arolygiad llawn yma